Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 14:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan fu farw Abeia, a'i gladdu yn Ninas Dafydd, daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. Yn ystod ei deyrnasiad ef cafodd y wlad lonydd am ddeng mlynedd.

2. Gwnaeth Asa yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.

3. Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.

4. Anogodd Jwda i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid a chadw'r gyfraith a'r gorchmynion,

5. ac fe symudodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r allorau. Cafodd y deyrnas lonydd yn ei oes ef.

6. Adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda tra oedd y wlad yn cael llonydd, ac ni fu rhyfel yn ei erbyn yn ystod y blynyddoedd hynny am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.

7. Dywedodd wrth Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu â muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch.” Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.

8. Yr oedd gan Asa fyddin o dri chan mil o wŷr Jwda yn dwyn tarian a gwaywffon, a dau gant a phedwar ugain mil o wŷr Benjamin yn dwyn tarian a thynnu bwa; yr oeddent oll yn wroniaid.

9. Daeth Sera yr Ethiopiad yn eu herbyn gyda byddin o filiwn, a thri chant o gerbydau.

10. Pan gyrhaeddodd Maresa, daeth Asa allan yn ei erbyn, a pharatoesant i ymladd yn nyffryn Seffatha, yn ymyl Maresa.

11. Galwodd Asa ar yr ARGLWYDD ei Dduw a dweud, “O ARGLWYDD, nid oes neb fel ti i gynorthwyo'r gwan yn erbyn y cryf; cynorthwya ni, O ARGLWYDD ein Duw, oherwydd yr ydym yn ymddiried ynot, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dyrfa hon. O ARGLWYDD, ein Duw ni wyt ti; na fydded i neb gystadlu â thi.”

12. Felly, gorchfygodd yr ARGLWYDD yr Ethiopiaid o flaen Asa a Jwda. Fe ffoesant,

13. gydag Asa a'i fyddin yn eu herlid, hyd at Gerar, lle syrthiodd cymaint ohonynt o flaen yr ARGLWYDD a'i fyddin fel na allent adennill eu nerth.

14. Casglodd gwŷr Jwda anrhaith mawr iawn, a choncro'r holl ddinasoedd o gwmpas Gerar, am fod ofn yr ARGLWYDD arnynt. Anrheithiasant yr holl ddinasoedd am fod ysbail mawr iawn ynddynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 14