Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 13:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y maent yn llosgi poethoffrymau ac arogldarth peraidd i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr, ac yn trefnu'r bara gosod ar y bwrdd dihalog a chynnau'r lampau yn y canhwyllbren aur bob prynhawn. Oherwydd yr ydym ni'n dal i wasanaethu'r ARGLWYDD ein Duw; ond yr ydych chwi wedi ei wrthod.

12. Wele, y mae Duw gyda ni i'n harwain, a'i offeiriaid â thrwmpedau yn galw brwydr yn eich erbyn. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid, oherwydd ni fyddwch yn llwyddo.”

13. Anfonodd Jeroboam rai o'u hamgylch i ymguddio ac ymosod arnynt o'r tu ôl; felly, tra oedd rhai o flaen Jwda, yr oedd y lleill mewn cuddfan y tu cefn iddynt.

14. Troes gwŷr Jwda, a gweld y byddai'n rhaid iddynt ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl;

15. yna galwasant ar yr ARGLWYDD, ac fe ganodd yr offeiriaid y trwmpedau, a bloeddiodd gwŷr Jwda. Pan floeddiodd gwŷr Jwda, trawodd Duw Jeroboam a holl Israel o flaen Abeia a Jwda.

16. Ffodd yr Israeliaid o flaen gwŷr Jwda, ac fe roddodd Duw hwy yn eu llaw.

17. Lladdodd Abeia a'i filwyr lawer iawn ohonynt; syrthiodd yn gelain bum can mil o wŷr dethol Israel.

18. Darostyngwyd yr Israeliaid y pryd hwnnw, a chafodd byddin Jwda fuddugoliaeth am iddynt ymddiried yn ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.

19. Ymlidiodd Abeia ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno ddinasoedd Bethel, Jesana ac Effraim a'u pentrefi.

20. Ni lwyddodd Jeroboam i adennill ei nerth yn ystod teyrnasiad Abeia; trawyd ef gan yr ARGLWYDD, a bu farw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 13