Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Sicrhaodd y Brenin Rehoboam ei afael ar Jerwsalem a theyrnasu yno. Yr oedd yn un a deugain oed pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.

14. Ond fe wnaeth y brenin ddrwg trwy beidio â rhoi ei fryd ar geisio'r ARGLWYDD.

15. Ac onid yw hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, yn ysgrifenedig yng nghroniclau ac achau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd? Bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.

16. Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth Abeia ei fab yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 12