1. Sicrhaodd Solomon fab Dafydd ei afael ar ei deyrnas, ac yr oedd yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, yn ei ddyrchafu'n uchel iawn.
2. Cyfarchodd Solomon holl Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, y barnwyr a phob tywysog a phenteulu trwy Israel gyfan.
3. Yna fe aeth ef a'r gynulleidfa i gyd i'r uchelfa yn Gibeon, oherwydd yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, a wnaeth Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.
4. Ond yr oedd arch Duw wedi ei chludo gan Ddafydd o Ciriath-jearim i'r lle a ddarparodd ar ei chyfer, sef y babell a gododd yn Jerwsalem.
5. Yno, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD, yr oedd yr allor bres a wnaeth Besalel fab Uri, fab Hur; ac fe nesaodd Solomon a'r gynulleidfa ati.
6. Aeth Solomon i fyny at yr allor bres gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, ac offrymodd arni fil o boethoffrymau.
7. Y noson honno ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.”