3. yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.” Yna agor y drws a ffo heb oedi.’ ”
4. Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.
5. A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, “Y mae gennyf neges i ti, syr.” Gofynnodd Jehu, “I ba un ohonom?” “I ti, syr,” meddai yntau.
6. Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
7. Taro dŷ Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.
8. Difethir holl dŷ Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.
9. A gwnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia.
10. Ac am Jesebel, bydd y cŵn yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu.” Yna fe agorodd y drws a ffoi.
11. Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, “A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?” Atebodd yntau, “Gwyddoch am y dyn a'i siarad.”
12. “Paid â'th gelwydd,” meddent, “da thi, dywed wrthym.” Ac atebodd, “Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.’ ”
13. Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, “Jehu sydd frenin!”