Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 9:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar dŵr yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, “Rwy'n gweld mintai.” Dywedodd Joram, “Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn.”

18. Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, “Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Ac meddai Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.” Cyhoeddodd y gwyliwr, “Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn ôl.”

19. Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, “Fel hyn y dywed y brenin; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Atebodd Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.”

20. A chyhoeddodd y gwyliwr, “Y mae wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn ôl; ac y mae'r gyrru fel gyrru Jehu fab Nimsi, oherwydd y mae'n gyrru'n ynfyd.”

21. Dywedodd Joram, “Cyplwch fy ngherbyd.” Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22. Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, “A yw popeth yn iawn, Jehu?” Atebodd yntau, “Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?”

23. Yna troes Joram ei gerbyd yn ôl a ffoi, a gweiddi ar Ahaseia, “Brad, Ahaseia!”

24. Cydiodd Jehu yn ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau nes i'r saeth fynd trwy ei galon, a syrthiodd i'r cerbyd.

25. Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, “Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar ôl ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn:

26. ‘Cyn wired ag y gwelais waed Naboth a'i feibion ddoe, medd yr ARGLWYDD, fe dalaf yn ôl i ti yn y rhandir hwn, medd yr ARGLWYDD’; felly, gafael ynddo a bwrw ef allan i'r rhandir, yn ôl gair yr ARGLWYDD.”

27. Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei ôl ac yn dweud, “Tarwch yntau hefyd.” A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 9