Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent.

21. A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?”

22. Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.”

23. Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.

24. Ymhen amser, cynullodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin a mynd i warchae ar Samaria.

25. Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl.

26. Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mur, gwaeddodd gwraig arno, “F'arglwydd frenin, helpa fi!”

27. Ond dywedodd, “Na! Bydded i'r ARGLWYDD dy helpu; o ble y caf fi help iti—ai o'r llawr dyrnu neu o'r gwinwryf?”

28. Yna gofynnodd y brenin, “Beth sydd o'i le?” Meddai hithau, “Dywedodd y ddynes yma wrthyf, ‘Dyro di dy blentyn inni ei fwyta heddiw, a chawn fwyta fy mab i yfory.’

29. Felly berwyd fy mab i a'i fwyta, ac yna dywedais wrthi y diwrnod wedyn, ‘Dyro dithau dy fab inni ei fwyta.’ Ond y mae hi wedi cuddio'i phlentyn.”

30. Pan glywodd y brenin eiriau'r wraig, rhwygodd ei wisg; a chan ei fod yn cerdded ar y mur, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain yn nesaf at ei groen.

31. Ac meddai, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os ceidw Eliseus fab Saffat ei ben ar ei ysgwyddau heddiw.”

32. Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin ŵr o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, “A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed sŵn traed ei feistr yn ei ddilyn?”

33. A thra oedd eto'n siarad â hwy, dyna'r brenin yn cyrraedd ac yn dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth ein haflwydd, pam y disgwyliaf rhagor wrtho?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 6