1. Dywedodd y proffwydi wrth Eliseus, “Edrych yn awr, y mae'r lle yr ydym yn byw ynddo gyda thi yn rhy gyfyng inni.
2. Gad inni fynd at yr Iorddonen a chymryd oddi yno drawst bob un i wneud lle y gallwn fyw ynddo.” Dywedodd yntau, “Ewch.”
3. Ond meddai un, “Bydd dithau fodlon i ddod gyda'th weision.” Ac atebodd, “Dof.”
4. Yna aeth gyda hwy at yr Iorddonen i dorri coed.
5. Tra oedd un yn cwympo trawst, syrthiodd ei fwyell i'r dŵr, a dywedodd, “Gwae fi, syr; un fenthyg oedd hi.”
6. Dywedodd gŵr Duw, “Ple y syrthiodd?” Dangosodd y lle iddo; torrodd yntau ffon a'i thaflu yno, a nofiodd y fwyell.
7. Dywedodd, “Cod hi.” Ac estynnodd ei law a'i chymryd.
8. Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd â'i weision a phenderfynu, “Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll.”
9. Ac anfonodd gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno.”
10. Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gŵr Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar ôl tro.
11. Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, “Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?”
12. Ond dywedodd un o'i weision, “Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely.”
13. Dywedodd yntau, “Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal.”
14. Dywedwyd wrtho, “Y mae yn Dothan.” Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref.
15. Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?”