Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Rhyw ddiwrnod aeth Eliseus heibio i Sunem, lle'r oedd gwraig fonheddig; a bu hi'n daer arno i gymryd bwyd yno. Felly bob tro y byddai'n dod heibio, byddai'n troi i mewn yno i fwyta.

9. Dywedodd y wraig wrth ei gŵr, “Rwy'n gwybod mai gŵr sanctaidd Duw yw hwn sy'n dod heibio i ni o hyd.

10. Rwyf am inni wneud llofft fechan ar y mur, a gosod yno wely a bwrdd a chadair a chanhwyllbren, iddo gael troi i mewn yno pan ddaw atom.”

11. Un diwrnod pan ddaeth yno a mynd i mewn i'r llofft i orwedd,

12. dywedodd wrth ei was Gehasi, “Galw'r Sunamees.” Wedi iddo'i galw ac iddi hithau ddod ato,

13. dywedodd Eliseus wrtho, “Dywed wrthi, ‘Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?’ ” Ond dywedodd hi: “Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw.”

14. Pan ofynnodd Eliseus, “Beth sydd i'w wneud drosti?” atebodd Gehasi, “Wel, nid oes ganddi fab, ac y mae ei gŵr yn hen.”

15. Dywedodd, “Galw hi.” Wedi iddo ei galw, a hithau'n sefyll yn y drws,

16. dywedodd wrthi, “Yr adeg hon yn nhymor y gwanwyn byddi'n cofleidio mab.” Atebodd hithau, “Na, syr, paid â dweud celwydd wrth dy lawforwyn a thithau'n ŵr Duw.”

17. Ond beichiogodd y wraig ac ymddŵyn mab yr adeg honno yn nhymor y gwanwyn, fel y dywedodd Eliseus wrthi.

18. Wedi i'r bachgen dyfu, aeth allan ryw ddiwrnod at ei dad i blith y medelwyr,

19. a gwaeddodd ar ei dad, “Fy mhen, fy mhen!” Dywedodd yntau wrth y gwas, “Dos ag ef at ei fam.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4