33. Caeodd Eliseus y drws arnynt ill dau, a gweddïo ar yr ARGLWYDD.
34. Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.
35. Yna cododd a cherdded unwaith yn ôl ac ymlaen yn y tŷ, cyn mynd yn ôl ac ymestyn arno. Tisiodd y bachgen seithwaith, ac agor ei lygaid.
36. Yna galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud, “Galw'r Sunamees.”
37. Wedi iddo'i galw, ac iddi hithau ddod, dywedodd, “Cymer dy fab.” Syrthiodd hi wrth ei draed a moesymgrymu i'r llawr cyn cymryd ei mab a mynd allan.
38. Dychwelodd Eliseus i Gilgal pan oedd newyn yn y wlad. Yr oedd nifer o broffwydi dan ei ofal, a dywedodd wrth ei was, “Gosod y crochan mawr ar y tân a berwa gawl i'r proffwydi.”
39. Yr oedd un ohonynt wedi mynd allan i'r maes i gasglu llysiau, a chafodd winwydden wyllt, a chasglodd goflaid llawn o rawn gwylltion oddi arni, heb wybod beth oeddent, a dod a'u bwrw i'r crochan cawl.
40. Tywalltwyd y cawl i'r proffwydi ei fwyta, a chyn gynted ag iddynt brofi o'r cawl, yr oeddent yn gweiddi ac yn dweud, “O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan.” Ac ni allent ei fwyta.
41. Dywedodd yntau, “Dewch â blawd.” Ac wedi iddo'i daflu i'r crochan, dywedodd, “Rhannwch i'r dynion, iddynt fwyta.” Ac nid oedd dim niweidiol yn y crochan.
42. Daeth gŵr o Baal-salisa â bara blaenffrwyth i ŵr Duw, yn cynnwys ugain torth haidd a thywysennau o ŷd newydd.
43. Dywedodd, “Rhowch hwy i'r dynion i'w bwyta.” Ond dywedodd ei wasanaethwr, “Sut y gallaf rannu hyn rhwng cant o ddynion?” Ond atebodd, “Rho hwy i'r dynion i'w bwyta, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd bwyta a gadael gweddill.”
44. A gosododd y torthau o'u blaen, a chawsant fwyta a gadael gweddill, yn ôl gair yr ARGLWYDD.