Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. dywedodd wrthi, “Yr adeg hon yn nhymor y gwanwyn byddi'n cofleidio mab.” Atebodd hithau, “Na, syr, paid â dweud celwydd wrth dy lawforwyn a thithau'n ŵr Duw.”

17. Ond beichiogodd y wraig ac ymddŵyn mab yr adeg honno yn nhymor y gwanwyn, fel y dywedodd Eliseus wrthi.

18. Wedi i'r bachgen dyfu, aeth allan ryw ddiwrnod at ei dad i blith y medelwyr,

19. a gwaeddodd ar ei dad, “Fy mhen, fy mhen!” Dywedodd yntau wrth y gwas, “Dos ag ef at ei fam.”

20. Cododd hwnnw ef a mynd ag ef at ei fam; bu'n eistedd ar ei glin hyd hanner dydd, ac yna bu farw.

21. Cymerodd ef i fyny, a'i roi i orwedd ar wely gŵr Duw; yna aeth allan, a chau'r drws.

22. Wedyn galwodd ei gŵr a dweud, “Anfon un o'r gweision ac un o'r asennod ataf, fel y gallaf frysio at ŵr Duw ac yn ôl.”

23. Dywedodd ef, “Pam yr ei di ato heddiw? Nid yw'n newydd-loer nac yn saboth.” “Mae popeth yn iawn,” meddai hithau.

24. Cyfrwyodd yr asen a dywedodd wrth ei gwas, “Gyr ymlaen, paid ag arafu er fy mwyn i, os na ddywedaf wrthyt.”

25. Aeth ar ei thaith, a dod at ŵr Duw ym Mynydd Carmel; a phan welodd gŵr Duw hi'n dod, dywedodd wrth ei was Gehasi, “Dacw'r Sunamees fan draw;

26. rhed yn awr i'w chyfarfod a gofyn iddi, ‘A yw popeth yn iawn gyda thi, gyda'th ŵr, gyda'th blentyn?’ ” Dywedodd hi, “Ydyw, yn iawn.”

27. Ond pan ddaeth at ŵr Duw i'r mynydd, ymaflodd yn ei draed, a phan ddaeth Gehasi i'w gwthio draw, dywedodd gŵr Duw, “Gad iddi, oherwydd y mae mewn loes mawr, ac y mae'r ARGLWYDD wedi ei gelu oddi wrthyf a heb ei fynegi imi.”

28. A dywedodd hi, “A ofynnais i am fab oddi wrth f'arglwydd? Oni ddywedais, ‘Paid â'm twyllo’?”

29. Yna dywedodd Eliseus wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer fy ffon, a dos; os gweli rywun, paid â'i gyfarch, ac os bydd rhywun yn dy gyfarch di, paid ag aros i ateb. Rho fy ffon ar wyneb y bachgen.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4