Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25:19-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. a chymerodd o'r ddinas swyddog a ofalai am y gwŷr rhyfel, pump o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ysgrifennydd pennaeth y fyddin a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o bobl y wlad oedd yn parhau yn y ddinas.

20. Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu â'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla.

21. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun.

22. Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda.

23. Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr, fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia, daethant at Gedaleia i Mispa. Eu henwau oedd Ismael fab Nethaneia, Johanan fab Carea, Seraia fab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia fab y Maachathiad.

24. Tyngodd Gedaleia wrthynt ac wrth eu milwyr, “Nid oes angen i chwi ofni swyddogion y Caldeaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd yn iawn arnoch.”

25. Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elishama, a oedd o'r llinach frenhinol, a deg o ddynion gydag ef, a tharo'n farw Gedaleia a'r Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef yn Mispa.

26. Yna cododd yr holl bobl, bach a mawr, a swyddogion y lluoedd, a ffoi i'r Aifft rhag ofn y Caldeaid.

27. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn y daeth i'r orsedd, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ryddhau o garchar.

28. Bu'n garedig wrtho a rhoi iddo sedd uwch na brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.

29. Newidiodd Jehoiachin o'i ddillad carchar, a chafodd fwyta'i fara'n feunyddiol gydag ef weddill ei oes,

30. a chael dogn beunyddiol gan y brenin weddill ei ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 25