1. ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar y degfed dydd o'r degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon gyda'i holl fyddin yn erbyn Jerwsalem, a gwersyllu yno, a chodi gwrthglawdd o'i chwmpas.
2. Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Sedeceia.
3. Ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis, pan oedd newyn trwm yn y ddinas a phobl y wlad heb fwyd, bylchwyd mur y ddinas.
4. A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hyn, ffodd gyda'i holl filwyr allan o'r ddinas liw nos, drwy'r porth rhwng y ddau fur sydd wrth ardd y brenin; ac er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas, ffodd y brenin i gyfeiriad yr Araba.
5. Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar ôl y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chwâl.
6. Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn ôl at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno.
7. Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon.
8. Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem.