Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas.

9. Eto ni ddôi offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.

10. Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch.

11. A gwnaeth i ffwrdd â'r meirch a gysegrodd brenhinoedd Jwda i'r haul ym mynedfa tŷ'r ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd yn y glwysty, a llosgodd gerbyd yr haul.

12. Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tŷ'r ARGLWYDD; ac ar ôl eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron.

13. Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn â Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd, ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieiddbeth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid.

14. Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.

15. Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23