Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Safodd y brenin wrth y golofn a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD, i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau â'i holl galon ac â'i holl enaid, ac i gyflawni holl eiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. A safodd yr holl bobl wrth y cyfamod.

4. Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd â'u llwch i Fethel.

5. Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef.

6. Dygodd byst Asera allan o dŷ'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin.

7. Bwriodd i lawr dai puteinwyr y cysegr oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, lle'r oedd gwragedd yn gweu gwisgoedd ar gyfer delw Asera.

8. Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas.

9. Eto ni ddôi offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.

10. Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch.

11. A gwnaeth i ffwrdd â'r meirch a gysegrodd brenhinoedd Jwda i'r haul ym mynedfa tŷ'r ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd yn y glwysty, a llosgodd gerbyd yr haul.

12. Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tŷ'r ARGLWYDD; ac ar ôl eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron.

13. Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn â Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd, ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieiddbeth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid.

14. Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.

15. Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.

16. Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gŵr Duw pan ragfynegodd y pethau hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23