Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:28-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Am weddill hanes Joseia, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

29. Yn ei ddyddiau ef daeth Pharo Necho brenin yr Aifft at afon Ewffrates, at frenin Asyria; a phan aeth Joseia allan yn ei erbyn, lladdodd Necho ef yn Megido, pan welodd ef.

30. Cludodd ei weision ef yn farw o Megido, a'i ddwyn i Jerwsalem a'i gladdu yn ei feddrod. Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.

31. Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.

32. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.

33. Carcharodd Pharo Necho ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, rhag iddo fod yn frenin yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.

34. Gwnaeth Eliacim fab Joseia yn frenin yn lle ei dad Joseia, a newid ei enw i Jehoiacim. Cymerodd Jehoahas i lawr i'r Aifft, lle bu farw.

35. Fe roddodd Jehoiacim yr arian a'r aur i Pharo, ond trethodd y wlad i godi'r arian yr oedd Pharo yn eu hawlio; gosodwyd trethiant ar bob un o bobl y wlad i godi'r arian a'r aur i dalu i Pharo Necho.

36. Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Sebuda merch Pedaia o Ruma oedd enw ei fam.

37. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23