2. ac aeth i fyny i'r deml, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r proffwydi a phawb o'r bobl, bach a mawr. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhÅ·'r ARGLWYDD.
3. Safodd y brenin wrth y golofn a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD, i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau â'i holl galon ac â'i holl enaid, ac i gyflawni holl eiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. A safodd yr holl bobl wrth y cyfamod.
4. Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd â'u llwch i Fethel.