Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn â Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd, ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieiddbeth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid.

14. Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.

15. Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.

16. Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gŵr Duw pan ragfynegodd y pethau hyn.

17. Wedyn gofynnodd, “Beth yw'r gofeb acw a welaf?” Atebodd pobl y ddinas ef, “Dyna fedd gŵr Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel.”

18. Yna dywedodd wrthynt am adael llonydd iddo ac nad oedd neb i ymyrryd â'i esgyrn. Felly arbedwyd ei esgyrn, a hefyd esgyrn y proffwyd a ddaeth o Samaria.

19. Yn nhrefi Samaria dinistriodd Joseia holl demlau'r uchelfeydd a wnaeth brenhinoedd Israel i ddigio'r ARGLWYDD. Gwnaeth iddynt yno yn hollol fel y gwnaeth ym Methel.

20. Lladdodd ar yr allorau bob un o offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, a llosgi esgyrn dynol arnynt cyn dychwelyd i Jerwsalem.

21. Rhoddodd y brenin orchymyn i'r holl bobl, “Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn.”

22. Oherwydd ni chadwyd Pasg fel hwn er dyddiau'r barnwyr a fu'n barnu Israel, na thrwy holl flynyddoedd brenhinoedd Israel a Jwda.

23. Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Joseia y cadwyd y Pasg hwn i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

24. Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.

25. Erioed o'r blaen ni chaed brenin tebyg iddo, yn troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni yn ôl holl gyfraith Moses. Ac ni chododd neb tebyg iddo ar ei ôl.

26. Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddigofaint mawr yn erbyn Jwda o achos yr holl bethau a wnaeth Manasse i'w ddigio.

27. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Symudaf Jwda hefyd allan o'm gŵydd, fel y symudais Israel; a gwrthodaf Jerwsalem, y ddinas hon a ddewisais, a hefyd y tŷ hwn y dywedais y byddai f'enw yno.”

28. Am weddill hanes Joseia, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23