Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 22:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. “Ewch i ymgynghori â'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran y bobl a holl Jwda, ynglŷn â chynnwys y llyfr hwn a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na wrandawodd ein hynafiaid ar eiriau'r llyfr hwn, na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd ar ein cyfer.”

14. Aeth yr offeiriad Hilceia, ac Ahicam ac Achbor a Saffan ac Asaia, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Harhas, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,

15. dywedodd hi wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y sawl a'ch anfonodd ataf,

16. ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, popeth sydd yn y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda,

17. am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnânt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nid oes a'i diffydd.’

18. A dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori â'r ARGLWYDD: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglŷn â'r geiriau a glywaist:

19. Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.

20. Ac am hynny casglaf di at dy hynafiaid, a dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wêl dy lygaid y drwg a ddygaf ar y lle hwn.’ ” Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 22