Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 22:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.

3. Yn ei ddeunawfed flwyddyn anfonodd y Brenin Joseia ei ysgrifennydd Saffan fab Asaleia, fab Mesulam, i dŷ'r ARGLWYDD a dweud,

4. “Dos at Hilceia yr archoffeiriad, er mwyn iddo gyfrif yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD ac a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl, i'w trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.

5. Y maent i'w rhoi yn awr i'r goruchwylwyr ar dŷ'r ARGLWYDD, a hwythau i'w rhoi i'r gweithwyr yn nhŷ'r ARGLWYDD, sy'n atgyweirio agennau'r tŷ,

6. i gael seiri ac adeiladwyr a seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd i atgyweirio'r tŷ.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 22