1. Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.
2. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3. Yn ei ddeunawfed flwyddyn anfonodd y Brenin Joseia ei ysgrifennydd Saffan fab Asaleia, fab Mesulam, i dŷ'r ARGLWYDD a dweud,
4. “Dos at Hilceia yr archoffeiriad, er mwyn iddo gyfrif yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD ac a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl, i'w trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.
5. Y maent i'w rhoi yn awr i'r goruchwylwyr ar dŷ'r ARGLWYDD, a hwythau i'w rhoi i'r gweithwyr yn nhŷ'r ARGLWYDD, sy'n atgyweirio agennau'r tŷ,
6. i gael seiri ac adeiladwyr a seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd i atgyweirio'r tŷ.
7. Ond nid ydynt i roi cyfrif o'r arian a roddir i'w gofal, am eu bod yn gweithredu'n onest.”
8. Dywedodd yr archoffeiriad Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan i'w ddarllen.
9. Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd yn ôl at y brenin, a dwyn adroddiad iddo, a dweud, “Y mae dy weision wedi cyfrif yr arian oedd yn y deml, ac wedi eu trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am dŷ'r ARGLWYDD.”
10. Ac ychwanegodd, “Fe roddodd yr offeiriad Hilceia lyfr imi.” Yna darllenodd Saffan ef i'r brenin.
11. Pan glywodd y brenin gynnwys llyfr y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,