Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 21:8-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'w hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud fel y gorchmynnais iddynt yn y gyfraith a roes fy ngwas Moses iddynt.”

9. Eto ni fynnent wrando, ac arweiniodd Manasse hwy i ddrygioni gwaeth na'r eiddo'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.

10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD trwy ei weision y proffwydi,

11. “Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod,

12. fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Dygaf y fath ddrwg ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn merwino clustiau pwy bynnag a glyw.

13. Rhoddaf ar Jerwsalem yr un llinyn ag ar Samaria, a'r un mesur ag ar dŷ Ahab. Golchaf Jerwsalem fel y bydd un yn golchi llestr ac yna'n ei droi ar ei wyneb.

14. Byddaf yn gwrthod gweddill fy etifeddiaeth, ac yn eu rhoi yn llaw eu holl elynion i fod yn anrhaith ac yn ysbail,

15. am eu bod wedi gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg a'm digio, o'r dydd y daeth eu hynafiaid o'r Aifft hyd heddiw.”

16. Tywalltodd Manasse gymaint o waed dieuog nes llenwi Jerwsalem drwyddi, heb sôn am ei bechod yn arwain Jwda i bechu a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

17. Am weddill hanes Manasse, a'i holl waith a'r pechu a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

18. A bu farw Manasse, a'i gladdu yng ngardd ei balas, sef yng ngardd Ussa. A daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.

19. Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Mesulemeth merch Harus o Iotba oedd enw ei fam.

20. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse.

21. Dilynodd yn ôl troed ei dad, a gwasanaethu ac addoli'r un eilunod â'i dad.

22. Gwrthododd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

23. Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei dŷ;

24. ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 21