Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yna dywedodd Eseia wrthynt, “Cymerwch bowltis ffigys.” Ac wedi iddynt wneud hynny a'i osod ar y cornwyd, fe wellodd.

8. Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Beth yw'r arwydd y bydd yn fy iacháu, ac yr af i fyny i'r deml ymhen tridiau?”

9. Dywedodd Eseia, “Dyma fydd yr arwydd iti oddi wrth yr ARGLWYDD y bydd yn cyflawni'r hyn a ddywedodd: bydd y cysgod yn symud ddeg gris ymlaen neu ddeg gris yn ôl.”

10. Dywedodd Heseceia, “Y mae'n haws i'r cysgod symud ymlaen ddeg gris; na, aed y cysgod yn ôl ddeg gris.”

11. Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei ôl ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas.

12. Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael.

13. Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt.

14. Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, “Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?” Atebodd Heseceia, “O wlad bell, o Fabilon y daethant.”

15. Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”

16. Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air yr ARGLWYDD:

17. ‘Wele'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.

18. Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20