Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei ôl ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas.

12. Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael.

13. Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt.

14. Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, “Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?” Atebodd Heseceia, “O wlad bell, o Fabilon y daethant.”

15. Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”

16. Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air yr ARGLWYDD:

17. ‘Wele'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.

18. Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.”

19. Atebodd Heseceia, “o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru.” Meddyliai, “Oni fydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i?”

20. Am weddill hanes Heseceia, a'i holl wrhydri, ac fel y gwnaeth gronfa ddŵr a'r ffos a ddôi â dŵr i'r ddinas, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

21. Bu farw Heseceia, a daeth Manasse yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20