Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2. Trodd yntau ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dweud:

3. “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac â chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Yna beichiodd wylo.

4. A chyn bod Eseia wedi gadael y cyntedd canol daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud,

5. “Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iacháu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.

6. Ychwanegaf bymtheng mlynedd at dy oes, a gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”

7. Yna dywedodd Eseia wrthynt, “Cymerwch bowltis ffigys.” Ac wedi iddynt wneud hynny a'i osod ar y cornwyd, fe wellodd.

8. Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Beth yw'r arwydd y bydd yn fy iacháu, ac yr af i fyny i'r deml ymhen tridiau?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20