Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2. Trodd yntau ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dweud:

3. “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac â chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Yna beichiodd wylo.

4. A chyn bod Eseia wedi gadael y cyntedd canol daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud,

5. “Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iacháu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20