Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.”

10. Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.”

11. Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2