Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Dywedodd Elias wrtho, “Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Jericho.

5. Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.”

6. Dywedodd Elias wrtho, “Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant ill dau.

7. Ac yr oedd hanner cant o broffwydi wedi dod ac aros gyferbyn â hwy o hirbell tra oeddent hwy ill dau yn sefyll ar lan yr Iorddonen.

8. Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r dŵr. Ymrannodd y dŵr i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych.

9. Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.”

10. Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.”

11. Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef.

12. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.

13. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2