Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.”

17. Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael.

18. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?”

19. Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, “Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r dŵr yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth.”

20. Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.”

21. Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy.”

22. Ac y mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus.

23. Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, “Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!”

24. Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant.

25. Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2