Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef.

12. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.

13. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen.

14. Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.

15. Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.”

16. Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.”

17. Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael.

18. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2