Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.

9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud,

10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.

11. Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed?

12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar?

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

14. Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, a gweddïo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:

15. “O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.

16. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.

17. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd,

18. a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.

19. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”

20. Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel;

21. ‘Clywais yr hyn a weddïaist ynglŷn â Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 19