8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.
9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud,
10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
11. Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed?
12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar?
13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”
14. Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, a gweddïo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:
15. “O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.
16. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.