Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed?

12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar?

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

14. Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, a gweddïo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:

15. “O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.

16. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.

17. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd,

18. a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.

19. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 19