32. Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, ac ar yr un pryd yn penodi o'u mysg rai o bob math yn offeiriaid, i weithredu drostynt yng nghysegrau'r uchelfeydd.
33. Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, a hefyd yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain yn ôl defod y genedl y caethgludwyd hwy ohoni i Samaria.
34. Hyd heddiw y maent yn dal at eu hen arferion. Nid addoli'r ARGLWYDD y maent, na gweithredu yn ôl y deddfau a'r arfer a'r gyfraith a'r gorchymyn a roes yr ARGLWYDD i feibion Jacob, a enwyd Israel.
35. Oherwydd, wrth wneud cyfamod â hwy, gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt, “Peidiwch ag addoli duwiau eraill nac ymostwng iddynt na'u gwasanaethu nac aberthu iddynt,
36. ond yn hytrach addoli ac ymostwng ac aberthu i'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi o wlad yr Aifft â nerth mawr a braich estynedig.
37. Gofalwch gadw bob amser y deddfau a'r barnedigaethau a'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennodd ef ar eich cyfer; peidiwch ag addoli duwiau eraill.
38. Peidiwch ychwaith ag anghofio'r cyfamod a wneuthum â chwi, a pheidiwch ag addoli duwiau eraill.
39. Ond addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe'ch gwared o law eich holl elynion.”
40. Eto ni wrandawsant, eithr dal at eu hen arferion.
41. Yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli'r ARGLWYDD, a'r un pryd yn gwasanaethu eu delwau; ac y mae eu plant a'u hwyrion wedi gwneud fel eu hynafiaid hyd heddiw.