Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 17:14-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Eto nid oeddent yn gwrando, ond yn ystyfnigo fel eu hynafiaid oedd heb ymddiried yn yr ARGLWYDD eu Duw.

15. Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.

16. Yr oeddent yn diystyru holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddwy ddelw o lo, a delw o Asera. Yr oeddent yn ymgrymu i holl lu'r nef, yn addoli Baal, ac yn peri i'w meibion a'u merched fynd trwy dân.

17. Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

18. Llidiodd yr ARGLWYDD yn fawr yn erbyn Israel, a gyrrodd hwy o'i ŵydd, heb adael ond llwyth Jwda'n unig ar ôl.

19. Eto ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ond dilyn yr un arferion ag Israel.

20. Felly gwrthododd yr ARGLWYDD holl hil Israel, a'u darostwng a'u rhoi yn llaw rheibwyr, ac yna'u bwrw'n llwyr o'i ŵydd.

21. Pan dorrodd Israel i ffwrdd oddi wrth linach Dafydd, gwnaethant Jeroboam fab Nebat yn frenin, a throdd yntau hwy oddi wrth yr ARGLWYDD a pheri iddynt bechu'n fawr.

22. Glynodd yr Israeliaid wrth holl bechodau Jeroboam, heb droi oddi wrthynt,

23. hyd nes i'r ARGLWYDD yrru Israel o'i ŵydd, fel yr oedd wedi dweud trwy ei weision y proffwydi; a chaethgludwyd Israel o'u gwlad i Asyria hyd heddiw.

24. Yna daeth brenin Asyria â phobl o Babilon, Cutha, Awa, Hamath a Seffarfaim a'u rhoi yn nhrefi Samaria yn lle'r Israeliaid; cawsant feddiannu Samaria a byw yn ei threfi.

25. Pan ddaethant yno i fyw gyntaf, nid oeddent yn addoli'r ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD lewod i'w plith a byddai'r rheini'n eu lladd.

26. Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.”

27. Gorchmynnodd brenin Asyria, “Anfonwch yn ôl un o'r offeiriaid a ddygwyd oddi yno; gadewch iddo fynd i fyw yno, a dysgu defod duw'r wlad iddynt.”

28. Felly aeth un o'r offeiriaid, a gafodd ei gaethgludo o Samaria, i fyw ym Methel, a'u dysgu sut i addoli'r ARGLWYDD.

29. Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw.

30. Yr oedd pobl Babilon yn gwneud Sucoth-benoth, pobl Cuth yn gwneud Nergal, pobl Hamath yn gwneud Asima,

31. yr Awiaid yn gwneud Nibhas a Tartac, a gwŷr Seffarfaim yn llosgi eu plant i Adrammelech ac Anammelech duwiau Seffarfaim.

32. Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, ac ar yr un pryd yn penodi o'u mysg rai o bob math yn offeiriaid, i weithredu drostynt yng nghysegrau'r uchelfeydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 17