1. Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel, daeth Asareia fab Amaseia brenin Jwda yn frenin.
2. Un ar bymtheg oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.
3. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia;
4. er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
5. Trawodd yr ARGLWYDD y brenin, a bu'n wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ, a Jotham mab y brenin yn oruchwyliwr y palas ac yn rheoli pobl y wlad.
6. Am weddill hanes Asareia a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
7. Bu farw Asareia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.