Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 13:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn pechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt.

3. Llidiodd yr ARGLWYDD wrth Israel, a rhoddodd hwy yn llaw Hasael brenin Syria a Ben-hadad fab Hasael am gyfnod.

4. Ond erfyniodd Jehoahas ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yntau arno wrth weld fel y dioddefai Israel dan orthrwm brenin Syria.

5. Rhoddodd yr ARGLWYDD waredydd i Israel a'u rhyddhau o afael Syria, a chafodd yr Israeliaid fyw yn eu cartrefi fel o'r blaen.

6. Eto ni throesant oddi wrth bechodau tylwyth Jeroboam, a barodd i Israel bechu, ond parhau ynddynt, ac yr oedd hyd yn oed y pren Asera'n aros yn Samaria.

7. Ni adawodd Hasael i Jehoahas fwy na hanner cant o farchogion, a deg o gerbydau, a deng mil o wŷr traed, gan fod brenin Syria wedi eu dinistrio a'u gwneud fel llwch dyrnwr.

8. Am weddill hanes Jehoahas, a'i weithredoedd a'i wrhydri, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

9. Bu farw Jehoahas, a'i gladdu yn Samaria, a daeth ei fab Joas yn frenin yn ei le.

10. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Jehoas brenin Jwda y daeth Joas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria am un mlynedd ar bymtheg.

11. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu, ond parhaodd ynddynt.

12. Am weddill hanes Joas a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

13. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; yna daeth Jeroboam i'w orsedd.

14. Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei ŵydd a dweud, “Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel.”

15. Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny.

16. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 13