Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 13:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny.

16. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.

17. Yna dywedodd, “Agor y ffenestr tua'r dwyrain.” Agorodd hi, a dywedodd Eliseus, “Saetha.” A phan oedd yn saethu, dywedodd, “Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa.”

18. Dywedodd wedyn, “Cymer y saethau,” a chymerodd yntau hwy. Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Taro hwy ar y ddaear.” Trawodd yntau deirgwaith ac yna peidio.

19. Digiodd gŵr Duw wrtho a dweud, “Pe bait wedi taro pump neu chwech o weithiau, yna byddit yn taro Syria yn Affec nes ei difa; ond yn awr, teirgwaith yn unig y byddi'n taro Syria.”

20. Wedi hyn bu Eliseus farw, a chladdwyd ef.Bob blwyddyn byddai minteioedd o Moab yn arfer dod ar draws y wlad.

21. Un tro, yn ystod angladd rhyw ddyn, gwelwyd mintai'n dod, a bwriwyd y dyn i fedd Eliseus; ond cyn gynted ag y cyffyrddodd ag esgyrn Eliseus, daeth yn fyw a chodi ar ei draed.

22. Bu Hasael brenin Syria yn gorthrymu Israel holl ddyddiau Jehoahas,

23. nes i'r ARGLWYDD dosturio a dangos trugaredd a ffafr tuag atynt er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob, am nad oedd yn ewyllysio'u dinistrio ac nad oedd hyd yn hyn wedi eu bwrw allan o'i olwg.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 13