11. Safodd y gwarchodlu i amgylchu'r brenin, pob un â'i arfau yn ei law, ar draws y tŷ o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tŷ.
12. Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddasant ef yn frenin, a'i eneinio, a churo dwylo a dweud, “Byw fyddo'r brenin!”
13. Clywodd Athaleia drwst y gwarchodlu a'r bobl, a daeth atynt i dŷ'r ARGLWYDD.
14. Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth y golofn yn ôl y ddefod, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, rhwygodd ei dillad a gweiddi, “Brad, brad!”
15. Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, “Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladdwch â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier,” meddai'r offeiriad, “â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD.”
16. Felly daliasant hi a'i dwyn at fynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
17. Gwnaeth Jehoiada gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a'r brenin a'i bobl, iddynt fod yn bobl i'r ARGLWYDD; gwnaeth gyfamod hefyd rhwng y brenin a'r bobl.
18. Aeth holl bobl y wlad at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau; a phenododd yr offeiriad arolygwyr ar dŷ'r ARGLWYDD.
19. Yna cymerodd Jehoiada y capteiniaid a'r Cariaid a'r gwarchodlu, a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o dŷ'r ARGLWYDD, a'i ddwyn trwy borth y gwarchodlu i'r palas a'i osod ar yr orsedd frenhinol.
20. Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia â'r cleddyf yn y palas.
21. Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin.