Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:22-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Yna dywedodd wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Dwg allan wisg i bob un o addolwyr Baal.” A dygodd yntau'r gwisgoedd iddynt.

23. Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, “Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig.”

24. A phan aethant i offrymu aberthau a phoethoffrymau, gosododd Jehu bedwar ugain o'i ddynion y tu allan a dweud, “Os bydd un o'r bobl a roddais yn eich llaw yn dianc, cymeraf fywyd un ohonoch chwi yn ei le.”

25. Ar ôl gorffen poethoffrymu, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a'r swyddogion, “Dewch, lladdwch hwy heb adael i neb ddianc,” a lladdasant hwy â'r cleddyf. Yna rhuthrodd y gwarchodlu a'r swyddogion at dŵr teml Baal,

26. a dwyn allan y golofn o deml Baal a'i llosgi,

27. ac yna distrywio colofn Baal a difrodi teml Baal a'i throi'n geudy, fel y mae hyd heddiw.

28. Er i Jehu ddileu Baal o Israel,

29. ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechu, sef oddi wrth y lloi aur oedd ym Methel a Dan.

30. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, “Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel.”

31. Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, â'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.

32. Yr adeg honno y dechreuodd yr ARGLWYDD gyfyngu terfynau Israel, a bu Hasael yn ymosod ar holl oror Israel

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10