Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd gan Ahab ddeg a thrigain o feibion yn Samaria. Ysgrifennodd Jehu lythyrau a'u hanfon i Samaria at swyddogion y ddinas, yr henuriaid a'r rhai oedd yn gofalu am blant Ahab, gan ddweud,

2. “Cyn gynted ag y cewch y llythyr hwn, gan fod meibion eich arglwydd gyda chwi, a bod gennych gerbydau a meirch a dinas gaerog ac arfau,

3. dewiswch y gorau a'r cymhwysaf o feibion eich arglwydd a'i osod ar orsedd ei dad, ac ymladdwch dros dylwyth eich arglwydd.”

4. Ond cawsant ofn mawr a dweud, “Gwelwch, methodd dau frenin ei wrthsefyll; sut y safwn ni?”

5. Yna anfonodd goruchwyliwr y palas a llywodraethwr y ddinas a'r henuriaid a'r gwarcheidwaid at Jehu a dweud, “Dy weision di ydym, a gwnawn bopeth a ddywedi wrthym; nid ydym am ddewis neb yn frenin; gwna di'r hyn sydd orau gennyt.”

6. Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, “Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory.” Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas.

7. Ar ôl iddynt dderbyn y llythyr, cymerasant feibion y brenin, a lladd y deg a thrigain a rhoi eu pennau mewn cewyll a'u hanfon ato i Jesreel.

8. Pan ddaeth y cennad a'i hysbysu eu bod wedi dod â phennau meibion y brenin, dywedodd, “Gosodwch hwy yn ddau bentwr o flaen y porth hyd y bore.”

9. Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, “Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10