1. Wedi marw Ahab gwrthryfelodd Moab yn erbyn Israel.
2. Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, “Ewch i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf.”
3. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, “Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, ‘Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron?
4. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.’ ” Ac aeth Elias.
5. Dychwelodd y negeswyr, a gofynnodd Ahaseia iddynt, “Pam yr ydych wedi dychwelyd?”
6. Eu hateb oedd, “Daeth rhyw ddyn i'n cyfarfod a dweud wrthym, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? Am hynny, ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw”.’ ”
7. Gofynnodd y brenin, “Sut un oedd y dyn a ddaeth i'ch cyfarfod a dweud hyn wrthych?”
8. Atebodd y dynion, “Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol.” Ac meddai yntau, “Elias y Thesbiad oedd.”
9. Yna anfonodd gapten hanner cant gyda'i ddynion at Elias, a daeth o hyd iddo yn eistedd ar ben bryncyn. Dywedodd wrtho, “Ti ŵr Duw, y mae'r brenin yn gorchymyn iti ddod i lawr.”
10. Atebodd Elias y capten, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant.
11. Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, “Gŵr Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith.”
12. Atebodd Elias, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.”
13. A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg.