1. Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.
2. Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.
3. Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn.
4. Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,
5. a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.”
6. Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, “Rho inni frenin i'n barnu”, a gweddïodd Samuel ar yr ARGLWYDD.
7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt.
8. Yn union fel y gwnaethant â mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwnânt â thithau.
9. Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt.”
10. Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo,
11. a dweud, “Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd.
12. Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau.