1 Samuel 4:19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.