Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 4:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan.Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Ebeneser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.

2. Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad.

3. Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, “Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion.”

4. Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees.

5. Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd â bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.

6. Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, “Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?” Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,

7. ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, “Daeth duw i'r gwersyll.” Ac meddent, “Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen.

8. Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid â phob math o bla yn yr anialwch.

9. Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 4