Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 31:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Pan welodd yr Israeliaid oedd yr ochr draw i'r dyffryn a thros yr Iorddonen fod dynion Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant y trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.

8. Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i dri mab wedi syrthio ar Fynydd Gilboa.

9. Torasant ei ben ef, a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da yn nheml eu delwau ac i'r bobl.

10. Rhoesant ei arfau yn nheml Astaroth, a chrogi ei gorff ar fur Beth-sean.

11. Pan glywodd trigolion Jabes-gilead beth oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,

12. aeth pob rhyfelwr ohonynt ar unwaith liw nos a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion oddi ar fur Beth-sean, a'u cludo i Jabes a'u llosgi yno.

13. Yna cymerasant eu hesgyrn a'u claddu dan y dderwen yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 31