Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Daethant ar draws rhyw Eifftiwr allan yn y wlad, ac wedi dod ag ef at Ddafydd, rhoesant iddo fwyd i'w fwyta a dŵr i'w yfed.

12. Wedi iddynt roi iddo deisen ffigys a dau swp o rawnwin i'w bwyta, daeth ato'i hun, oherwydd nid oedd wedi bwyta tamaid nac yfed diferyn ers tri diwrnod a thair noson.

13. Gofynnodd Dafydd iddo, “I bwy yr wyt ti'n perthyn, ac o ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd, “Llanc o'r Aifft wyf fi, caethwas i Amaleciad; ond gadawodd fy meistr fi ar ôl am fy mod wedi mynd yn glaf dridiau'n ôl,

14. pan oeddem wedi gwneud cyrch yn erbyn Negef y Cerethiaid a'r Jwdeaid, a Negef Caleb, a rhoi Siclag ar dân.”

15. Yna gofynnodd Dafydd iddo, “A ei di â mi at y fintai hon?” Ac meddai yntau, “Tynga imi yn enw Duw na wnei di fy lladd na'm rhoi yng ngafael fy meistr, ac mi af â thi at y fintai hon.”

16. Aeth â hwy, a dyna lle'r oeddent, ar wasgar dros wyneb yr holl dir, yn bwyta, yn yfed ac yn dawnsio o achos yr holl ysbail fawr a gymerwyd ganddynt o wlad y Philistiaid ac o Jwda.

17. Trawodd Dafydd hwy o'r cyfnos hyd nos drannoeth, heb i neb ohonynt ddianc, ar wahân i bedwar cant o lanciau a ffodd ar gefn camelod.

18. Achubodd Dafydd y cwbl yr oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, ac achub ei ddwy wraig hefyd.

19. Nid oedd yr un ohonynt ar goll, o'r hynaf i'r ieuengaf, na bechgyn na genethod, nac ychwaith ddim o'r ysbail a gymerwyd gan yr Amaleciaid; cafodd Dafydd y cwbl yn ôl.

20. Wedi i Ddafydd adennill yr holl ddefaid ac ychen, gyrasant rai o flaen y lleill a dweud, “Ysbail Dafydd yw hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30