Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i filwyr yn ôl i Siclag ymhen tridiau, yr oedd yr Amaleciaid wedi gwneud cyrch ar y Negef ac ar Siclag, ac wedi ymosod ar Siclag a'i llosgi.

2. Yr oeddent wedi cymryd yn gaeth y gwragedd oedd yno, yn ifanc a hen; nid oeddent wedi lladd neb, ond mynd â hwy i'w canlyn wrth ymadael.

3. Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i ddynion, yr oedd y dref wedi ei llosgi â thân, a'u gwragedd, eu meibion a'u merched wedi mynd i gaethiwed.

4. Torrodd Dafydd a'i ddynion allan i wylo'n uchel, nes eu bod yn rhy wan i wylo rhagor.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30