Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.