Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 3:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”

19. Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.

20. Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.

21. A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 3